Back

ⓘ Ieithyddiaeth. Yr astudiaeth wyddonol o iaith yw’r Ieithyddiaeth. Cynhwysar ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymc ..




                                               

Cywair

Gallai Cywair gyfeirio at un o sawl peth: Cywair ieithyddiaeth yn derm ar gyfer y defnydd o amrywiaethau iaith yn ôl y cyd-destunau. Cywair santes a gysylltir gydag Eglwys Sant Beuno, Llangywair ger y Bala. Cywair côr - Cor siambr o ardal Castell Newydd Emlyn.

                                     

ⓘ Ieithyddiaeth

Yr astudiaeth wyddonol o iaith yw’r Ieithyddiaeth. Cynhwysar ddisgyblaeth yn bennaf ymchwil strwythur ac ystyr ieithyddol. Gelwir yr ail faes ymchwil yn semanteg; gramadeg ywr enw a roddir ar ymchwil strwythur ieithyddol, ac fe gynhwysa dri is-faes, sef morffoleg, cystrawen, a ffonoleg. Astudiaeth berthnasol ir olaf, yn ymwneud â phriodweddau ffisegol seiniau llafar, yw seineg. Fe elwir unigolyn a wna ymchwil ieithyddol yn ieithydd.

Mae ieithyddiaeth, fel pob cangen o wyddoniaeth, yn faes rhyngddisgyblaethol; fe dynna ar waith mewn meysydd megis seicoleg, gwybodeg, cyfrifiadureg, athroniaeth, bywydeg, niwrowyddoniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, ac acwsteg.

                                     

1. Amcanion sylfaenol ac ymraniadau pwysig

Prif amcan ieithyddiaeth fodern yw disgrifio ac egluro natur iaith. Golyga hyn, uwchlaw popeth, ddod i ddealltwriaeth or hyn sydd yn gyffredin i bob iaith, yr hyn sydd yn amrywio rhwng ieithoedd, ar modd mae pobl yn dysgu ieithoedd yn enwedig eu mamieithoedd. Gall pob bod dynol heblaw am rai achosion patholegol gyrraedd cymhwysedd ym mha bynnag iaith a siaredir neu arwyddir oi hamgylch yn ystod plentyndod, heb angen cyfarwyddant uniongyrchol neu ymwybodol. Er y gall anifeiliaid eraill ddysgu systemau cyfathrebu eu hunain, ni lwyddant i ddysgu iaith ddynol yn yr un modd. Tybia ieithyddion felly mai potensial cynhenid ywr gallu i ddysgu a defnyddio iaith, yn debyg ir gallu i gerdded. Anghytunir fodd bynnag ynglŷn ag ehangder y potensial hwn ai gyfyngiad i iaith yn unig. Cred rhai fod nifer helaeth o osodiadau haniaethol ieithyddol wedi eu hamgodio yn yr ymennydd; cred eraill mai cynnyrch gwybyddiaeth gyffredinol ddynol yw iaith. Cytunir serch hynny nad oes gwahaniaethau genetig cryf tu ôl ir gwahaniaethau ieithyddol a fodolant: gall unrhyw blentyn iach ddysgu unrhyw iaith ddynol ai hamgylchyna, pa bynnag gefndir teuluol neu ethnig sydd ganddo.

Datblygodd ieithyddiaeth yr 20g i fod yn "strwythuriaethol" gan ei bod yn trin iaith fel system gymhleth na chaiff elfen ohoni ystyr neu hunaniaeth ond mewn perthynas ag elfennau eraill y system; dechreuodd y ddealltwriaeth hon o iaith efo gwaith Ferdinand de Saussure ddiwedd y 19g a ddechraur ugeinfed. Dominyddwyd ieithyddiaeth ail hanner yr 20g gan theori Gramadeg cynhyrchiol, sydd yn dilyn gwaith Noam Chomsky, a etifeddodd lawer gan y traddodiad strwythuriaethol er nad ydyw yn hollol strwythuriaethol yn ystyr llawn Saussure. Mae gramadeg cynhyrchiol yn honni y genir bodau dynol efo gwybodaeth gymhleth ieithyddol a rheolan gyfyng y broses o ddysgu iaith, neu ieithoedd, ym mhlentyndod. Maer theori yn "fodiwlaethol" gan y honna fod y wybodaeth hon yn benodol ieithyddol - fe fodola felly fodiwl ieithyddol yn yr ymennydd a elwir yn "ddyfais caffaeliad iaith" - yn hytrach na fod yn gyffredin i wybyddiaeth ddynol. Parha gramadeg gynhyrchiol i ddominyddur ddisgyblaeth ddechraur unfed ganrif ar hugain; serch hynny, mae theorïau ieithyddol eraill, rhai ohonynt yn anfodiwlaethol, wedi ennill poblogaeth dros y degawdau diwethaf - mae ieithyddiaeth wybyddiaethol yn enghraifft amlwg a chymharol lwyddiannus.

                                     
  • Canghen o ieithyddiaeth sy n ymwneud â r berthynas hanesyddol rhwng ieithoedd a i gilydd yw ieithyddiaeth gymharol. Datblygodd ieitheg yn ystod y 19g
  • Cyfundrefn gyfathrebu yw iaith. Gelwir astudiaeth ieithoedd yn ieithyddiaeth Mae n cynnwys astudiaeth cystrawen, seineg a morffoleg iaith. Does dim cytundeb
  • ed., 1992, pp. 1, 051 54. Chwiliwch am cyfieithu yn Wiciadur. Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  • gysylltiedig â r iaith. Ieithyddiaeth gymharol Hapax legomenon Chwiliwch am ieitheg yn Wiciadur. Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth Gallwch helpu Wicipedia
  • Astudiaeth seiniau iaith lafar yw seineg, ac fe ystyrir yn un o brif feysydd ieithyddiaeth yr astudiaeth wyddonol o iaith. Yn seineg astudir priodweddau r seiniau
  • Mewn Ieithyddiaeth mae Cywair yn derm ar gyfer y defnydd o amrywiaethau iaith yn ôl y cyd - destunau. Er engraifft, mae cyweiriau penodol ar gyfer byd y
  • yn ffurfio cymal neu frawddeg. Geirdarddiad yw r term am y gangen o ieithyddiaeth sy n astudio tarddiad geiriau a u hanes. Yn drosiadol, defnyddir yr
  • Ffonoleg yw r gangen o ieithyddiaeth sy n astudio systemau seiniau mewn iaith a sut mae iaith yn defnyddio seiniau i gyfleu gwahaniaethau mewn ystyr.
  • facto gyda Deddf Iaith sy n cyhoeddi eu bod i w trin yn gyfartal. Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  • Arwyddion dwyieithog Gwrthdwyieithrwydd Iaith swyddogol Unieithrwydd Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  • Morffem yw r uned ystyrlon leiaf yn iaith. Morffoleg Eginyn erthygl sydd uchod am ieithyddiaeth Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
  • Mewn ieithyddiaeth morffoleg yw r astudiaeth o adeiladwaith geiriau, am y rhyngwyneb rhwng ffonoleg a chystrawen. Mae cydrannau yn eiriau, sy n cael
  • Churchill Saesneg: Churchill College Ghil ad Zuckermann g. 1971 ieithyddiaeth Eginyn erthygl sydd uchod am Gaergrawnt. Gallwch helpu Wicipedia drwy