Back

ⓘ Empiriaeth. Damcaniaeth athronyddol syn dibynnu ar brofiad fel ffynhonnell gwybodeth yw empiriaeth neu weithiau profiadaeth. Modd o resymu a posteriori ywr dull ..




Empiriaeth
                                     

ⓘ Empiriaeth

Damcaniaeth athronyddol syn dibynnu ar brofiad fel ffynhonnell gwybodeth yw empiriaeth neu weithiau profiadaeth. Modd o resymu a posteriori ywr dull empiraidd syn dibynnu ar dystiolaeth a gaffaelir drwy arsylwi ac arbrofi. Cafodd yr athrawiaeth epistemolegol hon ei datblygu gan athronwyr o wledydd Prydain ac Iwerddon yn bennaf, gan gynnwys Locke, Berkeley a Hume, yn adwaith ir rhesymolwyr a honodd fodolaeth gwybodaeth a priori. Ir mwyafrif o empiryddion, mae profiad yn cynnwys ystyriaeth fewnol a meddyliau yn ogystal â phrofiad y synhwyrau. Mae empiriaeth yn gwadu bodolaeth syniadau greddfol, ac yn mynnu bod pob syniad yn tarddu o brofiad ac felly mae ein holl wybodaeth or byd yn ddealltwriaeth sydd wedi ei chyffredinoli o achosion neilltuol ein bywydau.

Yn ôl damcaniaeth empiraidd ystyr, mae ystyron i eiriau dim ond ir graddau maent yn cyfleu cysyniadau. Ymdrechar empiryddion i osod gwybodaeth a posteriori yn sail ir holl gysyniadau yr ydym yn eu deall. Yn ôl damcaniaeth empiraidd gwybodaeth, neu ddamcaniaeth cyfiawnhâd, dibynna credoau ar brofiad iw cyfiawnháu. Gall y berthynas rhwng y ddau safbwynt hwn fod yn gymhleth: mae nifer o empiryddion yn cydnabod rhagosodiadau a priori megis gwirioneddau mathemategol a rhesymegol ond yn gwadu cysyniadau a priori ; dim ond ychydig o athronwyr syn derbyn cysyniadau a priori ond syn gwadu rhagosodiadau a priori. John Stuart Mill oedd yr athronydd cyntaf i drin hyd yn oed deddfau mathemateg yn ganlyniad i gyffrediniadau ein profiad.

Mae empiriaeth yn amau dibynadwyedd awdurdod, sythwelediad, dyfaliad ar dychymyg, a rhesymu o natur haniaethol, damcaniaethol, a systemig.

                                     
  • Aristoteliaeth canlyniadaeth defnyddiolaeth delfrydiaeth dilechdid dirfodaeth empiriaeth enwoliaeth epistemoleg esboniadaeth ffenomen ffenomenoleg Hegeliaeth materoliaeth
  • ddisgrifio r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar empiriaeth a rhesymeg ddiddwythol. Ymhlith athronwyr eraill yr ysgol feddwl hon mae
  • ystyr a gwerth yw pragmatiaeth neu ymarferoliaeth. Dadleua r ffurf hon ar empiriaeth taw r canlyniad sy n pennu ystyr, a chadarnhâd sy n pennu gwirionedd
  • feddylwyr megis William o Ockham. Mae n berthnasol i fateroliaeth ac empiriaeth fel ei gilydd ac felly o bwys i athronwyr hyd heddiw. R. A. Eberle. Nominalistic
  • ystod yr Oleuedigaeth. Gan amlaf caiff rhesymoliaeth ei chyferbynnu ag empiriaeth Yn ôl y safbwynt rhesymolaidd, mae gan realiti strwythur resymegol a
  • methodoleg y gwyddorau cymdeithas yn sylweddol: ymchwil mesurol, ystadegaeth, empiriaeth a chymwyso r maes at ddefnydd ymarferol. Ers y 1950au defnyddir y term
  • 1685 14 Ionawr 1753 Roedd yn esboniwr blaenllaw ym maes athronyddol empiriaeth Mae n fwyaf adnabyddus am ei ddamcaniaeth o immaterialism anfaterioliaeth
  • benodol, mae n cyfeirio at system o ganfod gwybodaeth sy n seiliedig ar empiriaeth arbrofi, a methodolegol rheysmegol ac at y corff o wybodaeth mae pobl
  • ddisgrifio r profiad goddrychol, gan wahaniaethu ffenomenoleg oddi ar empiriaeth a rhesymeg ddiddwythol. Ganwyd Edmund Husserl ar 8 Ebrill 1859 yn Prossnitz