Back

ⓘ Llechfaen. Erthygl am y garreg yw hon. Am y pentref ym Mhowys gweler Llechfaen, Powys. Craig fetamorffig lwyd yw llech, llechfaen neu lechi. Ffurfiwyd llechfaen ..




Llechfaen
                                     

ⓘ Llechfaen

Erthygl am y garreg yw hon. Am y pentref ym Mhowys gweler Llechfaen, Powys.

Craig fetamorffig lwyd yw llech, llechfaen neu lechi. Ffurfiwyd llechfaen pan gafodd glai neu ludw folcanig a oedd wedi suddo i waelod y môr filiynau o flynyddoedd yn ôl ei wasgu ai droin graig.

Mae llechfaen Cymrun enwog iawn ac maen cael ei defnyddio ledled Ewrop. Ceir llawer o chwareli yng ngogledd orllewin Cymru, ger Bethesda a Blaenau Ffestiniog er enghraifft.

                                     

1. Defnydd llechfaen

Deilliar dystiolaeth gynharaf am ddefnyddio llechfaen o Oes yr Eifftiaid. Gosodent ddarnau o lechen fel tafod yng nghegau mwmiau.

  • Defnydd pennaf llechfaen yw fel defnydd adeiladu. Y nodweddion syn ei wneud yn addas at adeiladu yw nad yw llechfaen yn llosgi, yn wir nid yw prin yn adweithio gydag unrhyw beth, ai fod yn anathraidd nid yw dŵr yn ei dreiddio nemor ddim. Oherwydd hyn maen ddefnydd adeiladu syn para blynyddoedd lawer. Mae modd hollti llechfaen mewn dau gyfeiriad sydd fel arfer ar ongl lletraws iw gilydd, sef y plân pileri ar plân hollti. Oherwydd hyn mae modd cynhyrchu gwahanol ddefnyddiai adeiladu yn hwylus ohono.
  • Mae lliw naturiol llechfaen yn amrywio o ardal i ardal a hynnyn ystyriaeth bwysig yn ei ddefnydd pensaernïol. Ceir llechfaen unlliw a llechfaen brith, yn llwyd, porffor, glas, coch a gwyrdd. Cynlluniwyd to llechi gwyrddion ar gyfer adeilad Prifysgol Cymru Bangor: rhaid oedd cael y llechi o Benfro gan nad oedd chwareli llechi gwyrddion Dyffryn Nantlle yn cynhyrchu llechi ar adeg yr adeiladu yn 1907. Defnyddir llechfaen o wahanol liwiau i greu patrymau addurniadol ar doeon ac mewn cladin, megis yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd.
  • Yn ddiweddar dechreuwyd defnyddio agreg llechfaen yn y diwydiant adeiladu ac mewn gerddi. Or mynyddoedd gwastraff llechfaen y dawr agreg.
  • Defnyddir slabiau mwy trwchus ar lawr mewn lloriau neu lwybrau. Defnyddid slabiau llechfaen hefyd yn gerrig simnau, yn siliau ffenestr, yn linteli ar ben drws neu ffenestr, yn byst drysau, yn gribau, fel cladin, fel copin, ar gyfer muriau a ffensio, yn danciau dŵr, yn risiau, a.y.b.
  • Gellir hollti llechfaen yn haenau tenau ar hyd y plân hollti a chynhyrchu llechi gwastad, llyfn. Defnyddir llechi ar ben to ers dyddiaur Rhufeiniaid. Mae trwch y llechi yn dibynnu yn y lle cyntaf ar yr amgylchiadau pan ffurfiwyd y llechfaen, h.y. pa ddefnydd oedd y gwaddod, ac ar ba dymheredd a gwasgedd y trawsnewidiwyd y gwaddod yn graig.
  • Defnydd arall
  • Defnyddid llechi gan ddisgyblion yn lle papur ysgrifennu or 18g hyd at ddechraur 20g. Rhoid ymyl o bren am y lechen, a defnyddid pensilau plwm i ysgrifennu arnynt, gan lanhaur lechen ai hail-ddefnyddio dro ar ôl tro. Cynhyrchid llechi ysgrifennu gwag, rhai llinellog, llechi â sgwariau arnynt, a llechi gyda mapiau arnynt. O lechfaen y gwnaed byrddau duon hefyd.
  • Nid yw llechfaen yn dargludo trydan, cyhyd â bod lefel y sylffwr yn y graig yn ddigon bach. Defnyddid slabiau o lechfaen fel ynysydd ar fyrddau switsis trydan, cyn bod defnyddiau eraill wedi eu datblygu at y pwrpas hwn.
  • Defnyddir llechfaen wrth gynhyrchi addurniadau, gwaith crefft a cherflunio, gan gynnwys gwaith enamlo llechi.
  • Oherwydd nad ywn adweithion gemegol defnyddir llwch llechfaen fel llanwr mewn amryw o gynhyrchion; e.e. paent, glud, bitwmen, ffelt to, pryfleiddiaid, enamel ar beipiau tanforol.
  • Gan nad yw llechfaen yn llosgi nac yn cario gwres yn rhwydd, defnyddir slabiau o lechfaen i wneud byrddau biliards, meinciau mewn labordai ac mewn llaethdai.
  • Defnyddir llechfaen ar gyfer cerrig beddi. Maen addas at gerrig beddi oherwydd ei fod yn ddigon meddal iw naddu, mae wyneb y garreg yn llyfn ac yn unlliw. Oherwydd hyn nid oes rhaid gwneud y llythrennau o blwm neu eu paentio er mwyn iddynt fod yn ddarllenadwy. Nid yw llechfaen yn treulio yn y tywydd ychwaith er gall llechfaen hollti ar ei thraws, neu maer garreg yn gallu colli haenau cyfain oi hwyneb. Gall hyn ddigwydd i lechfaen o ansawdd isel, megis y llechfaen a ddaw o Sir Benfro, neu gall ddigwydd pan fo carreg yn cael ei naddu yr eildro cryn amser wedi iddi gael ei naddur tro cyntaf.
                                     

2. Gwallaur llechfaen

  • Gair pobl Blaenau am lechi â smotiau neu stribedi llwydwyn arnynt yw" llechi cachu iar”. Dyma’r esboniad gwyddonol gan Ray Roberts, daearegwr i Gyfoeth Naturiol Cymru
Reduction spots oedd y llechen cachu iar, neu" smotiau rhydwytho”. Adwaith cemegol yw rhain o amglych darn o rhywbeth organic neu mineral yn y gwaddod gwreiddiol Reduction yw newid yn y teip o haearn, o ferrous fe2 i ferric fe3). Mae’n gallu digwydd o amgylch un darn bach, ble maen arwain at y smotiau, neu o amgylch haenan ble geir y stribedi. Pan maen nhwn cael eu creu maer smotiau yn grwn, ond wrth ir cerrig llaid cael eu gwasgu i greu llechen maen nhwn newid i ffurf elipsoid
                                     
  • Pentref yn ardal Brycheiniog, de Powys yw Llechfaen Lleolir y pentref tua 2 filltir i r dwyrain o Aberhonddu, ar lethrau r bryniau rhwng Bannau Brycheiniog
  • Mae Bryngaer Twyn Llechfaen yn fryngaer Geltaidd sy n perthyn i Oes yr Haearn, ac sydd wedi i lleoli ger Llanfrynach, Powys, Cymru cyfeirnod OS: SO082291
  • Ffestiniog yng Ngwynedd yw Chwarel Maenofferen. Mae n dal yn cynhyrchu llechfaen wedi ei falu. Dechreuwyd gweithio safle Maenofferen yn fuan wedi 1800
  • y 19g. Ar y cyfan llechfaen o r Oes Gambriaidd yw r llechfaen gorau. Ond mae llechfaen o r Oes Ordoficaidd yn llai brau na llechfaen o r Oes Gambriaidd
  • gorllewin a r Mynydd Du i r dwyrain. Mae r pentrefi cyfagos yn cynnwys Llechfaen Llanfihangel Tal - y - llyn a Llandyfaelog Tre r - graig. gw  sg  go Trefi
  • a r Mynydd Du i r dwyrain. Mae r pentrefi cyfagos yn cynnwys Llan - gors, Llechfaen Llanywern a Llandefaelog Tre r Graig. Cynrychiolir Llanfihangel Tal - y - Llyn
  • Llanfihangel Tal - y - llyn i r de. Mae pentrefi eraill cyfagos yn cynnwys Llechfaen Tua 2 filltir i r gogledd - ddwyrain ceir Trefeca, a gysylltir â chymuned
  • copr neu blwm. Gellir defnyddio r gair hefyd am gloddfa am garreg, megis llechfaen lle mae o dan y ddaear, ond fel rheol defnyddir y term chwarel. Pan gloddir
  • Moelwyn Mawr 770m a Moelwyn Bach 710m Ceir nifer o hen chwareli llechfaen yn y bryniau hyn. Mae r mynyddoedd yn gorwedd rhwng Cwm Ffestiniog yn
  • Tywodfeini e.e. Hen Dywodfaen Coch Mathau o Greigiau Metamorffig Carreg las Llechfaen e.e. Llechau duon Marmor Daeareg Mwynyddiaeth Paleontoleg Tywod Chwiliwch